Read in English

Mae Governors for Schools Cymru’n dod o hyd i wirfoddolwyr medrus sydd am wasanaethu ar fwrdd llywodraethu, ac yna’n eu lleoli a’u cefnogi.

Rydym eisoes yn cefnogi ysgolion ledled Lloegr i redeg yn effeithiol trwy ddod o hyd i lywodraethwyr o safon uchel i ddod â’u sgiliau a’u harbenigedd i’r bwrdd. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn cefnogi ysgolion Cymru yn yr un modd trwy gysylltu gwirfoddolwyr ag ysgolion lleol sydd angen llywodraethwyr.

Cysylltwch i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais, sut i gofrestru swyddi llywodraethwr gwag, a sut mae ein gwasanaeth yn gweithio.

Gwnewch gais am fod yn llywodraethwr

Cofrestrwch swydd wag

Mae llywodraethwyr ysgol yn chwarae rhan hanfodol mewn addysg.

Mae’r bwrdd llywodraethu yn cynllunio cyfeiriad strategol ysgol, yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda, ac yn dwyn arweinyddiaeth ysgol i gyfrif.

Mae bwrdd llywodraethu cryf yn sicrhau dadl gadarn, sydd yn ei dro yn arwain at ganlyniadau addysgol gwell i blant.

Beth bynnag fo’ch cefndir proffesiynol, gallai eich sgiliau drawsnewid ysgol.

Byddwn yn eich cefnogi trwy gydol eich taith fel llywodraethwr

Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn llywodraethwyr am y tro cyntaf – ond maen nhw’n mynd ymlaen i gael effaith fawr ar yr ysgolion maen nhw’n eu gwasanaethu.

Hyfforddiant a chefnogaeth i’ch helpu chi i ddod yn llywodraethwr effeithiol

Rydym yn cydweithio â Governors Cymru sy’n darparu hyfforddiant effeithiol i fyrddau llywodraethu ledled Cymru.

Mae’r Adran Addysg hefyd yn darparu detholiad o adnoddau fydd yn eich galluogi i gyflawni eich rôl yn effeithiol.