Governors Cymru

Read in English

Mae Governors Cymru yn wasanaeth cymorth annibynnol, unigryw yng Nghymru sy’n darparu ystod o wasanaethau i lywodraethwyr ysgol. Ein nod yw ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethu ysgolion effeithiol i sicrhau bod pob llywodraethwr gwirfoddol yn cael cefnogaeth dda i gyflawni ei gyfrifoldebau niferus.

Mae Governors Cymru yn cynnig pecyn wedi’i seilio ar danysgrifiadau. Mae’n cynnwys mynediad at doreth o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgol. Ceir mynediad i wybodaeth gyfredol fydd yn hybu cydymffurfio, yn ogystal ag arbed amser i chi a darparu gwerth rhagorol. Mae’r pecyn yn cynnwys llinell gymorth, gwefan hawdd ei defnyddio, arweiniad ar-lein o ansawdd uchel, cyngor a gwybodaeth am adnoddau, ynghyd ag e-fwletinau a sesiynau briffio, a llawer mwy. Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael hefyd.

Dysgwch fwy am Governors Cymru

Mae gan bob un o’n llywodraethwyr sydd newydd eu lleoli yng Nghymru gyfle i ymuno â chronfa ddata Governors Cymru i dderbyn deunydd cymorth defnyddiol gan Governors Cymru a mynediad am ddim 3-mis i rywfaint o’r deunydd cymorth a gwybodaeth wrth iddynt gychwyn ar eu taith llywodraethu.

 

Prifysgol Agored Cymru

Mae tri deg awr o ddysgu dwyieithog am ddim i lywodraethwyr ysgolion ar gael ar OpenLearn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae natur hyblyg OpenLearn yn caniatáu i’r cyrsiau hyn gyd-fynd ag ymrwymiadau niferus llywodraethwr ysgol brysur.

Mae tri Chwrs Agored â Bathodyn yn rhoi cyfle i wella gwybodaeth a sgiliau llywodraethwyr ysgol mewn Arweinyddiaeth, Gwaith Tîm ac Addysg Gynhwysol. Gall dysgwyr fewngofnodi a dysgu ar adeg gyfleus iddyn nhw a dewis a ddylid cwblhau’r casgliad llawn neu gwrs penodol. Gellir cwblhau cyrsiau’n unigol neu eu defnyddio fel ymarferion myfyriol ar gyfer dysgu ar y cyd i grŵp o lywodraethwyr.

I bori yn yr adnoddau newydd ewch i open.edu/openlearnwales a chwiliwch am ‘Education in Wales’.

Gweithio mewn tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol

Addysg gynhwysol: deall beth rydyn ni’n ei olygu

Cyflwyniad i arweinyddiaeth ar gyfer llywodraethwyr ysgol

Adnodd Myfyrio i Lywodraethwyr

Nodau’r astudiaethau achos hyn, a gyflwynir yma ar ffurf wedi’i olygu, yw: ysgogi myfyrio yn gyflym am y mathau o faterion y gall llywodraethwyr ddod ar eu traws yn eu rôl; cynnig mewnwelediadau i sut mae llywodraethwyr wedi mynd i’r afael â materion; ysgogi sgwrsio a rhannu gwybodaeth ar draws cyrff llywodraethu. Mae tair thema eang i astudiaeth achos: y rhai sy’n darparu enghreifftiau o arfer da; y rhai sy’n tynnu sylw at heriau llywodraethu; a’r rhai sy’n datgelu sut y gall llywodraethwyr gael pethau’n anghywir neu fynd i drafferthion.

Darllen pellach

Cymorth Addysg – Adnodd Llesiant yng Nghymru