Read in English

 

Cydweithio i hybu llywodraethu yn y gymuned

Mae Governors for Schools Cymru’n cydnabod manteision cydweithio ag awdurdodau lleol i wella addysg i blant. Rydym yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, ac yn cydweithredu ag ystod o randdeiliaid sydd yn gweithio tuag at yr un nod o ddod o hyd i bobl fedrus ac ymroddedig i wirfoddoli fel llywodraethwyr. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr yn ymddiried ynom i gefnogi eu gwaith, ac rydym bob amser yn hapus i siarad ag awdurdodau lleol am sut y gallwn weithio mewn partneriaeth i lenwi eu swyddi gwag.

Fel rhan o’n partneriaethau ag awdurdodau lleol, rydym yn rhannu adroddiadau data i ddangos yr effaith y mae cydweithio yn ei chael ar yr awdurdod.

A yw’ch awdurdod lleol yn chwilio am ffyrdd i hyrwyddo llywodraethu yn y gymuned?

Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod i ddarganfod sut y gallem gefnogi gwaith eich awdurdod lleol.

Ffôn: 020 7354 9805
Ebost: [email protected]