Read in English

Gwasanaethau Governors Cymru

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn wasanaeth cefnogi annibynnol, unigryw yng Nghymru sydd yn darparu amrediad o wasanaethau ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.  Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant ysgolion effeithiol fel bod pob llywodraethwr gwirfoddol yn cael cefnogaeth dda i gyflawni eu cyfrifoldebau niferus.

Mae gan Jane Morris a Samantha MacNamara brofiad helaeth o fframwaith deddfwriaethol llywodraethiant ysgolion ac maen nhw wedi cynghori a chefnogi nifer o lywodraethwyr, clercod, Awdurdodau Lleol a Chonsortia Rhanbarthol ar rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu dros y blynyddoedd.

Rydym yn cynnig pecyn yn seiliedig ar danysgrifiad sydd yn cynnwys mynediad i gyfoeth o wybodaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion, fel eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a’ch bod yn gydsyniol, yn ogystal ag arbed amser i chi a darparu gwerth ardderchog.  Mae hyn yn cynnwys llinell gefnogi, gwefan hawdd ei defnyddio, canllawiau ar-lein o ansawdd uchel, cyngor a gwybodaeth am adnoddau, e-fwletinau a sesiynau briffio a llawer mwy.  Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael hefyd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Governors Cymru 

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn cynnig tawelwch meddwl bod gan gyrff llywodraethu fynediad i’r wybodaeth y maen nhw ei hangen i gyflawni eu rolau yn effeithiol, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau newydd – does yna’r un cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach! Ffoniwch ni i drafod neu anfon ebost 01443 844532 / [email protected]

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am ddod yn llywodraethwr edrychwch ar:

http://governors.cymru/dod-llywodraethwr/