celebrating our impact in wales

Over the past three years, Governors for Schools has extended its work into Wales with support from the National Lottery’s Awards for All funding. Since our first placement on 18th January 2021, we have supported 230 skilled and dedicated volunteers onto governing bodies across the country. To us, that means 230 people making a difference in their local community.  

 

Our Diversity Goal 

As an organisation, we believe that diverse governing bodies make for inclusive schools, where all staff and pupils feel valued. Having a range of voices at meetings enables a school to properly understand the needs of its community.

We are therefore delighted that of the 230 volunteers placed in Wales: 47% are under the age of 44, and 16% identify as being from an ethnic minority. These are particularly important figures, considering that a recent Estyn report noted the majority of governing boards do not reflect diversity within their local communities. 

 

Adapting Our Work 

Throughout, it has also been important to make our work specific to the Welsh context and culture. 

Our collaboration with corporate partners and Welsh partners such as Cardiff University, Governor Cymru and Local Authorities across Wales, has been vital. This has included providing supportive materials in both English and Welsh such as our e-learning module (funded by Cardiff University) and volunteer application form.

I’m delighted that we have been able to support volunteers with a diversity of skills and experiences to become governors. While it can be challenging to recruit governors that reflect the diverse make up of a local community, spreading the word about governance through our campaigns, social media and work with a broad range of partners has been key. 

I’d like to take the opportunity to thank all our partners in Wales for their support, and our volunteers for their commitment – their positive impact on younger generations cannot be overstated.

Loren Nadin, Senior Partnerships Manager, Governors for Schools

 

The Bigger Picture

Over the past three years, we have aimed to strengthen governing bodies – and in turn schools – through connecting volunteers with their local communities in Wales. We’re delighted with the feedback so far, from both local authorities and individual volunteers. 

Since early 2021 we have worked with Governors for Schools to assist in finding high quality candidates to become governors in schools in the region. Our experience of working with the team has been a very positive one and has resulted in the placement of almost 70 candidates into governor roles over the last 3 years. The working relationship has benefited us by strengthening our support of school governance and has provided us with a previously untapped pool of enthusiastic professionals who wish to support education in the locality. 

Sarah Jones, Service Area Lead (Business Intelligence and Governance), South-East Wales Education Achievement Service 

I’m hugely honoured to have the opportunity to contribute to my local community in this way, and hope that I can add value. I am also (very gradually) re-discovering some childhood Welsh language skills of my own, though I am quite a slow re-learner.

Nader Rameshni, Governor in Pembrokeshire, Wales 

 


Dathlu Ein Heffaith yng Nghymru – Tair Blynedd yn Ddiweddarach 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Governers for Schools wedi ymestyn ei waith i Gymru gyda chymorth Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Ers ein lleoliad cyntaf ar 18 Ionawr 2021, rydym wedi cefnogi 230 o wirfoddolwyr medrus ac ymroddedig ar gyrff llywodraethu ledled y wlad. I ni, mae hynny’n golygu bod 230 o bobl yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.

 

Ein Nod Amrywiaeth 

Fel sefydliad, credwn fod cyrff llywodraethu amrywiol yn creu ysgolion cynhwysol, lle mae’r holl staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae cael amrywiaeth o leisiau mewn cyfarfodydd yn galluogi ysgol i ddeall anghenion ei chymuned yn iawn.

Rydym felly wrth ein bodd gyda’r ffigurau canlynol am ein 230 o wirfoddolwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru: mae 47% o dan 44 oed, ac mae 16% yn nodi eu bod o leiafrif ethnig. Mae’r rhain yn ffigurau arbennig o bwysig, o ystyried bod adroddiad gan Estyn yn ddiweddar wedi nodi nad yw mwyafrif y byrddau llywodraethu yn adlewyrchu amrywiaeth yn eu cymunedau lleol.

 

Addasu Ein Gwaith 

Drwyddi draw, mae hefyd wedi bod yn bwysig gwneud ein gwaith yn benodol i’r cyd-destun a’r diwylliant Cymreig.

Mae ein cydweithrediad â phartneriaid corfforaethol a phartneriaid yng Nghymru megis Prifysgol Caerdydd, Governors Cymru ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru, wedi bod yn hollbwysig. Mae hyn wedi cynnwys darparu deunyddiau cefnogol yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ein modiwl e-ddysgu (a ariennir gan Brifysgol Caerdydd) a ffurflen gais gwirfoddolwyr.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi gwirfoddolwyr gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i ddod yn llywodraethwyr. Er y gall fod yn heriol recriwtio llywodraethwyr sy’n adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol cymuned leol, mae lledaenu’r gair am lywodraethu trwy ein hymgyrchoedd, cyfryngau cymdeithasol a gwaith gydag ystod eang o bartneriaid wedi bod yn allweddol.

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’n holl bartneriaid yng Nghymru am eu cefnogaeth, ac i’n gwirfoddolwyr am eu hymrwymiad – ni ellir gorbwysleisio eu heffaith gadarnhaol ar genedlaethau iau.

Loren Nadin, Uwch Reolwr Partneriaethau, Governors for Schools 

 

Y Darlun Mawr

Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi ceisio cryfhau cyrff llywodraethu – ac ysgolion yn eu tro – drwy gysylltu gwirfoddolwyr â’u cymunedau lleol yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd gyda’r adborth hyd yn hyn, gan awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr unigol.

Ers dechrau 2021, rydym wedi gweithio gyda Governors for Schools i helpu i ddod o hyd i ymgeiswyr o ansawdd uchel i ddod yn llywodraethwyr mewn ysgolion yn y rhanbarth. Mae ein profiad o weithio gyda’r tîm wedi bod yn un cadarnhaol iawn ac wedi arwain at leoli bron i 70 o ymgeiswyr i rolau llywodraethwyr dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r berthynas waith wedi bod o fudd i ni drwy gryfhau ein cefnogaeth i lywodraethiant ysgolion ac mae wedi darparu cronfa o weithwyr proffesiynol brwdfrydig nad ydynt wedi’u defnyddio o’r blaen sy’n dymuno cefnogi addysg yn yr ardal leol.  

Sarah Jones, Arweinydd Maes Gwasanaeth (Deallusrwydd Busnes a Llywodraethu), Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru

 

Mae cael cyfle i gyfrannu at fy nghymuned leol fel hyn yn anrhydedd o’r mwyaf, a gobeithio y gallaf ychwanegu gwerth. Rwyf hefyd (yn raddol iawn) yn ail-ddarganfod sgiliau Cymraeg fy mhlentyndod, er braidd yn araf.

Nader Rameshni, Llywodraethwr yn Sir Benfro, Cymru