Mae bwlio yn bryder difrifol i blant yng Nghymru. Dyna pam rydym wedi ymuno â’r elusen gwrth-fwlio Kidscape yr Wythnos Iechyd Meddwl Plant hon (7-13 Chwefror 2022), i dynnu sylw at wybodaeth ymarferol a chyngor ar yr hyn y gall llywodraethwyr yng Nghymru ei wneud i gymryd camau yn erbyn bwlio.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau pellach i lywodraethwyr ar gefnogi iechyd meddwl a llesiant disgyblion ar ein tudalennau Wellbeing Governors.

Gweithredu yn erbyn bwlio: cyngor i lywodraethwyr yng Nghymru

Mae bwlio yn bryder difrifol i blant yng Nghymru.  Canfu ymchwil gyda 103,000 o ddysgwyr yn 2017/2018[1] fod 12% wedi bwlio person arall unwaith neu ddwywaith yn ystod y mis diwethaf, roedd 21% wedi cael eu bwlio unwaith neu ddwywaith yn ystod y mis diwethaf, gyda 10% yn cael eu bwlio o leiaf unwaith yr wythnos. Canfu amcangyfrifon o nifer yr achosion a natur bwlio ar-lein[2] fod un o bob pump o blant 10-15 oed yng Nghymru a Lloegr (19%) wedi profi o leiaf un math o ymddygiad bwlio ar-lein (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2020).

Mae gan lywodraethwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio â’u dyletswydd i gadw plant yn ddiogel rhag bwlio a niwed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y dylai cadw plant yn ddiogel rhag bwlio fod yn flaenoriaeth, gyda chanllawiau gwrth-fwlio bellach yn cael eu gwneud yn statudol.

Mae Kidscape wedi nodi camau y gall pob llywodraethwr eu cymryd:

Gwnewch eich gwaith darllen!

  • Darllenwch Hawliau, Parch, Cydraddoldeb (HPC): Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir.
  • Sicrhewch eich bod yn deall y berthynas rhwng bwlio a diogelu. O dan Ddeddf Plant 1989, dylid mynd i’r afael â digwyddiad bwlio fel pryder amddiffyn plant pan fo ‘achos rhesymol dros amau bod plentyn (neu berson ifanc) yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol.’ Archwiliwch sut mae’r ysgol yn ymdrin â digwyddiadau o’r fath.
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod y gyfraith mewn perthynas â bwlio. Mae’r canllawiau HPC yn cynnwys rheoliadau allweddol.

Gwiriwch bolisïau a gweithdrefnau

  • Gwiriwch fod gan yr ysgol ddiffiniad o fwlio sy’n cyd-fynd â’r diffiniad yn y canllawiau HPC.
  • Dylech ddeall bod cyrff llywodraethu yn atebol am sicrhau bod polisïau effeithiol ar waith i ddiogelu plant. Enwebwch lywodraethwr i fod yn arweinydd gwrth-fwlio. Cefnogwch yr uwch dîm arweinyddiaeth gyda chydymffurfiaeth a gweithrediad
  • Sicrhewch fod polisi gwrth-fwlio’r ysgol yn cynnwys teithiau i’r ysgol ac oddi yno, ac ar-lein.
  • Sicrhewch fod y polisi gwrth-fwlio yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd (o leiaf bob tair mlynedd ac mewn ymateb i newidiadau i bolisïau a chyfarwyddebau’r llywodraeth).
  • Sicrhewch fod gweithdrefn gwyno’r ysgol yn cael cyhoeddusrwydd ac yn hygyrch i bawb.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys pawb

  • Modelwch werthoedd a gosod disgwyliadau uchel. Sicrhewch eich bod yn deall sut mae ethos yr ysgol yn sail i atal bwlio.
  • Sicrhewch fod yr ysgol yn lle diogel i bob dysgwr. Archwiliwch sut mae’r ysgol yn atal ac yn ymateb i fwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn.
  • Gwrandewch ar ddysgwyr. Anogwch eich ysgol i weithredu arolwg blynyddol. Archwiliwch sut mae’r ysgol yn cefnogi adrodd yn ôl a chofnodi achosion o fwlio.
  • Sicrhewch eich bod yn deall y dull o ymdrin â bwlio o fewn arolwg ysgol. Archwiliwch sut mae’r ysgol yn cynnwys dysgwyr, rhieni a gofalwyr wrth hunanwerthuso mewn perthynas â bwlio.

Ariennir Kidscape gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant gwrth-fwlio am ddim i lywodraethwyr tan fis Gorffennaf 2022. Cewch ragor o fanylion drwy ymweld â:

Rights, Respect, Equality: Support for School Leaders and Governors in Wales (kidscape.org.uk)

[1]  Hewitt G., Anthony R., Moore G., Melendez-Torres G.J., Murphy S. (2019) Student Health and Wellbeing In Wales: Report of the 2017/18 Health Behaviour in School-aged Children Survey and School Health Research Network Student Health and Wellbeing Survey. Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, DU

[2] Bwlio ar-lein yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)