Mae Governors for Schools a Gwasanaethau Governors Cymru (GCS) yn falch o lansio modiwl e-ddysgu dwyieithog i gefnogi llywodraethwyr newydd a darpar lywodraethwyr yng Nghymru.  Cafodd yr adnodd ymsefydlu newydd ei ariannu’n hael gan Brifysgol Caerdydd a’i ddatblygu ar y cyd â Governors Cymru Services.

Pwrpas y modiwl newydd yw helpu gwirfoddolwyr yng Nghymru i ddysgu mwy am gyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion, datblygu eu gwybodaeth am y sector addysg yng Nghymru, a dysgu rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer llywodraethu effeithiol. Mae’r modiwl wedi’i anelu at y rhai sy’n ystyried y rôl, neu sydd wedi dechrau ar eu taith lywodraethu yn ddiweddar. Er mwyn sicrhau bod y cwrs yn cynnig arweiniad perthnasol i gynulleidfa Gymreig, ymgynghorwyd ag amrywiaeth o arbenigwyr sector wrth ymchwilio, cynllunio a dylunio’r cynnwys dysgu.

Esboniodd Hannah Stolton, Prif Swyddog Gweithredol Governors for Schools: “Mae lansio’r modiwl e-ddysgu gwerthfawr hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer ehangu i Gymru. Rydym yn falch o fod wedi datblygu adnodd sy’n diwallu anghenion ein gwirfoddolwyr Cymraeg ymroddedig ac yn falch iawn o gynnig cynnwys i siaradwyr Cymraeg. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau ein hymdrechion.”

Dywedodd  Jane Morris, Cyfarwyddwr Governors Cymru Services: “Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â’r ddau sefydliad i gynhyrchu’r modiwl e-ddysgu arloesol hwn i gefnogi datblygiad ac effeithiolrwydd llywodraethwyr ysgolion ledled Cymru. Fel y gwyr darllenwyr efallai, mae’r genhadaeth hon yn agos iawn at ein calonnau. Bydd darpar lywodraethwyr, llywodraethwyr newydd a phrofiadol yn gweld y modiwl yn offeryn defnyddiol i gael gwell dealltwriaeth o lywodraethu effeithiol, yn ogystal â’n holl adnoddau defnyddiol eraill sydd ar gael yng Ngwasanaethau Governors Cymru. “

Dywedodd Susan Diment, Rheolwr Partneriaeth Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd : “Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion yng Nghymru fel rhan o’n cenhadaeth ddinesig. Yn 2019, lansiwyd ein menter llywodraethwyr ysgol, gan gefnogi ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr i ddod yn llywodraethwyr ysgol sy’n gwasanaethu.  Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Governors for Schools a Governors Cymru Services a chefnogi datblygiad y modiwl e-ddysgu dwyieithog cyntaf ar gyfer Cymru gyfan.  Gobeithiwn y bydd yr adnodd nid yn unig yn rhoi cyngor i lywodraethwyr a benodwyd yn ddiweddar ond hefyd yn helpu ymgeiswyr newydd i ddeall mwy am y rôl a’u hannog i ymgeisio.

Gwirfoddoli mewn Ysgol Gymraeg? Rhowch gynnig ar ein modiwl newydd heddiw

Mae gan yr holl wirfoddolwyr yr ydym yn eu lleoli yn ysgolion Cymru fynediad at ein llyfrgell o fodiwlau e-ddysgu, gan gynnwys y cwrs rhagarweiniol newydd sy’n benodol i Gymru. Os ydych chi’n newydd i lywodraethu Cymru, ewch i’r wefan i ddechrau’r cwrs. Peidiwch â phoeni os ydych yn brin o amser — gallwch bob amser gadw’ch cynnydd a dychwelyd i’r modiwl yn ddiweddarach. Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif ar ôl i chi gwblhau’r cwrs.

Nodiadau’r Golygydd

A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr? Ar hyn o bryd mae gennym gannoedd o swyddi gwag cofrestredig i’w llenwi â gwirfoddolwyr ymroddedig. Nid oes angen i chi fod yn rhiant neu’n meddu ar gymwysterau arbennig i wneud cais. Rydym yn chwilio am bobl 18+ oed sydd ag amrywiaeth o sgiliau. Rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Ynglŷn â Governors for Schools

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn llywodraethu? Ar hyn o bryd mae gennym gannoedd o swyddi gwag cofrestredig i’w llenwi â gwirfoddolwyr ymroddedig. Nid oes angen i chi fod yn rhiant neu’n meddu ar gymwysterau arbennig i wneud cais. Rydym yn chwilio am bobl 18+ oed sydd ag amrywiaeth o sgiliau. Rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.