Mae gan lywodraethwyr ysgol rôl amrywiol a phwysig…

… yn helpu’r ysgol i redeg yn effeithiol. Mae ganddyn nhw 3 swyddogaeth graidd:

  • Cynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol.
  • Goruchwylio perfformiad ariannol yr ysgol a sicrhau bod arian yn cael ei wario’n dda.
  • Dal y pennaeth neu’r arweinyddiaeth ysgol i gyfrif.

Mae rôl y llywodraethwr yn strategol yn hytrach nag yn weithredol. Nid yw llywodraethwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o redeg ysgol o ddydd i ddydd, yn hytrach maen nhw’n cefnogi ac yn herio tîm arweinyddiaeth yr ysgol i hybu gwelliant ysgol.

Mae llywodraethwyr fel arfer yn mynychu tua 6 cyfarfod y flwyddyn. Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb, ond mae’n cynnig cyfle i chi weld yn uniongyrchol yr effaith y gallwch ei chael wrth wella addysg i blant yn eich cymuned.

I wneud cais i ddod yn llywodraethwr, naill ai cwblhewch ein ffurflen ar-lein, neu lawrlwythwch a chwblhewch fersiwn Cymraeg.

Gwnewch gais am fod yn llywodraethwr