Read in English
Rydym yn cefnogi pob math o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, colegau addysg uwch, unedau atgyfeirio disgyblion (PRUs) a meithrinfeydd i ddod o hyd i lywodraethwyr.
Cofrestrwch eich swydd llywodraethwr wag gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, neu lawrlwythwch a chwblhewch ein fersiwn Cymraeg.

Gwasanaeth paru am ddim
- Gofynnwch am un set sgiliau wrth gofrestru eich swydd
- Adnoddau ychwanegol i wirfoddolwyr ar ôl eu penodi
Mae ein gwasanaeth, sydd am ddim i’w gyrchu, yn paru byrddau llywodraethu ag ymgeiswyr pan fyddant yn ymgeisio, os yw eich rôl yn diwallu eu gofynion.
Cofrestrwch eich swydd llywodraethwr Lawrlwythwch a chwblhewch ein fersiwn Cymraeg

Gwasanaeth Recriwtio Uwch
- Nodwch yr holl sgiliau a phrofiad sydd eu hangen arnoch wrth gofrestru eich swydd
- Byddwn yn cynnal chwiliad pwrpasol ar ein cronfa ddata, gan ddefnyddio allgymorth rhagweithiol a ‘helfa bennau’ (headhunting) lle bo angen
- Cymorth ymroddedig gan un o’n Rheolwyr Partneriaethau
- Anfonebu ar bob penodiad, heb gyfyngiad ar nifer y swyddi a gofrestrir
Ar gyfer y ddau wasanaeth, mae ein dangosfwrdd ar-lein yn eich galluogi i fonitro a diweddaru manylion eich holl swyddi gwag yn hawdd mewn un lle.
Gwasanaeth Recriwtio Uwch