Stori Llywodraethwr: Dyma Nader Rameshni yn myfyrio ar ei rôl newydd.
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun
Rwy’n gweithio i Deloitte ym maes ymgynghori yn y sector cyhoeddus ac wedi bod gyda’r cwmni ers tua thair blynedd. Cyn ymuno, roedd gen i yrfa amrywiol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys 16 mlynedd yn y Lluoedd Arfog, profiad o fyw a gweithio dramor, a chyfnod o redeg fy musnes fy hun. Cefais fy magu ar fferm yng Ngorllewin Cymru ac, ar ôl llawer o grwydro, rwyf wedi ail-ymgartrefu yng nghefn gwlad Cymru. Rwy’n briod gyda thri o blant sydd bellach yn agosáu at ddiwedd eu haddysg uwchradd ac y mae fy ngwraig a minnau wedi gorfod eu harwain trwy sawl system addysg yn y DU a thramor.
Dywedwch ychydig wrthym am eich ysgol
Llywodraethwr ydw i mewn ysgol gynradd bentref leol yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru. Mae tua 120 o ddisgyblion ac mae’r ysgol yn cynnwys Cyfnodau Allweddol 1 a 2. Mae’n ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru i hybu’r iaith yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu bod busnes gweinyddol a bywyd beunyddiol yr ysgol yn cael ei gynnal yn Gymraeg, gan gynnwys cyfathrebu rhwng disgyblion. Gwneir pob ymdrech i gynnwys ac integreiddio siaradwyr Saesneg a gwneir llawer o weithgarwch yn y ddwy iaith. Fodd bynnag, mae’n dod ag ychydig o heriau ychwanegol i rai disgyblion, athrawon a rhieni. Yr ochr arall yw bod llawer o blant yn dod yn ddwyieithog yn weddol ifanc.
Pam roedd diddordeb gennych chi mewn bod yn llywodraethwr ysgol?
Cefais fy magu mewn ardal wledig iawn lle roedd dewisiadau bywyd a gyrfa, a dweud y gwir, yn eithaf cyfyngedig. Roedd dyheadau a chyflawniadau addysgol, a ysgogwyd gan fy athrawon a’m teulu, wedi rhoi mynediad i mi at lu o opsiynau a dewisiadau bywyd a fyddai wedi bod yn amhosibl i mi fel arall. Teimlaf fod cymunedau gwledig yn aml yn cael eu hanwybyddu neu eu dad-flaenoriaethu o ran polisi a chyllid. Gall y broblem hon anfanteisio cenedlaethau cyfan o blant. Heb enghreifftiau o’r hyn sy’n bosibl, mae dyheadau pobl ifanc yn annhebygol o newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Ar ôl llwyddo i dynnu’n groes i’r arfer fy hun a bellach wedi dod yn ôl i fyw ym mro fy mebyd, roeddwn yn awyddus iawn i fod o gymorth i eraill (h.y. rhieni a disgyblion), a darparu rhywfaint o feddwl newydd neu arbenigedd ffres i’w helpu i fynd i’r afael â heriau a wynebir gan dimau arweinyddiaeth mewn ysgolion lleol.
Sut broses oedd ymgeisio ar gyfer Governors for Schools Cymru?
Hawdd iawn, mewn gwirionedd. Mae Governors for Schools yn cydblethu’n dda gyda fy nghwmni, felly roeddwn yn gallu cael cryn dipyn o fewnbwn i’r math o ysgol ac ardal ddaearyddol yr oedd gennyf ddiddordeb ynddynt. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn, gan ddarparu llawer o wybodaeth, hyfforddiant, a mynediad i unigolion o’r un meddylfryd. Maen nhw’n cynnal gweminarau achlysurol ac yn cynhyrchu erthyglau e-bost ar amrywiaeth o bynciau cyfoes, sydd i gyd yn eich helpu i fod yn ymwybodol o unrhyw faterion neu ddatblygiadau perthnasol ym maes llywodraethu ysgolion.
Sut mae cydbwyso eich rôl broffesiynol gyda’ch rôl wirfoddol?
Eithaf syml a dweud y gwir. Mae fy nghwmni yn annog ymgysylltiad cymunedol a gwirfoddoli trwy eu rhaglen effaith gymdeithasol, 5 Million Futures ac mae modd i mi ddefnyddio hyd at 3.5 awr y mis ar gyfer gweithgaredd cymorth ysgol. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn ystod amserau cyfarfodydd ysgol. Mae’n bosibl gwneud amser pan fydd mwy i’w wneud. Hyd yn hyn nid yw hynny wedi bod yn broblem, gan fod modd gwneud y rhan fwyaf o bethau y tu allan i oriau gwaith. Mae wedi bod yn anodd ymweld â’r ysgol yn ystod y pandemig, felly mae’r offer technoleg a ddarparwyd gan y Cyngor Sir i hwyluso gwaith llywodraethwyr wedi bod yn ddefnyddiol iawn i gadw mewn cysylltiad â phawb.
Sut byddech chi’n disgrifio bod yn llywodraethwr – sut rydych chi wedi elwa o’r rôl a pha effaith rydych chi wedi’i chael ar yr ysgol yn eich barn chi?
Mae’n gyfrifoldeb mawr. Rydych chi yno i gynrychioli’r sefydliad ac, o’r herwydd, rydych yn atebol i sawl rhanddeiliad, gan gynnwys rheolwyr yr ysgol, y rhieni, a’r plant, a nhw yn y pen draw yw cwsmeriaid yr ysgol. Rydych chi yno i geisio sicrhau eu bod yn cael y gwasanaeth gorau y gellir ei ddarparu gyda’r adnoddau sydd ar gael. Rydych hefyd yn rhan o dîm y mae’r holl randdeiliaid yn ceisio gosod yr esiampl iawn iddynt a chynnig cymorth. A dweud y gwir, rwy’n meddwl ei bod yn rhy gynnar i ddweud faint o effaith y byddaf yn ei chael yn fy ysgol bresennol. Rwy’n gobeithio y gallaf helpu, ac amser a ddengys. Hyd y cyfnod yn y swydd yw 4 blynedd sy’n hynod ddefnyddiol yn hynny o beth, gan fod meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd yn cymryd amser. Mae argyfwng COVID wedi cael effaith ar yr agwedd honno ar bethau hefyd. Ond yn sicr mae cael cyfle i gyfrannu at fy nghymuned leol fel hyn yn anrhydedd o’r mwyaf, a gobeithio y gallaf ychwanegu gwerth. Rwyf hefyd (yn raddol iawn) yn ail-ddarganfod sgiliau Cymraeg fy mhlentyndod, er braidd yn araf.