large image

Beth yw ein fframwaith gwirfoddoli yng Nghymru?

Gyda chefnogaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), rydym yn gweithio ar fframwaith cynhwysol a strategol i hybu ymgysylltiad cymunedol â llywodraethu ysgolion. Yn rhedeg o Ebrill 2025 i Hydref 2026, nod y prosiect yw cynyddu nifer y llywodraethwyr ysgol gwirfoddol. Bydd hyn yn ateb y galw cynyddol ac yn hyrwyddo gwirfoddoli seiliedig ar sgiliau ar draws sefydliadau a chymunedau Cymreig. Byddwn hefyd yn gweithio tuag at wneud y fframwaith yn un y gellir ei ailadrodd ledled Cymru, i ffurfio sylfaen i elusennau eraill gefnogi ymgysylltiad gwirfoddoli medrus ar lefel bwrdd.

Mae fformat a chynnwys y fframwaith yn dal i gael eu datblygu. Er mwyn ei siapio’n effeithiol, rydym yn dechrau gyda chyfnod ymchwil i archwilio sut y gallwn gefnogi unigolion ledled Cymru yn well i rolau llywodraethwyr trwy rwydweithiau amrywiol. Os hoffech chi gymryd rhan, darllenwch ymlaen

What is our volunteering framework for Wales?

With the support of Wales Council for Voluntary Action (WCVA), we’re working on an inclusive and strategic framework to boost community engagement with school governance. Running from April 2025 to October 2026, the project aims to increase the number of volunteer school governors. This will meet increasing demand and promote skills-based volunteering across Welsh organisations and communities. We’ll also work towards making the framework replicable throughout Wales, to form a foundation for other charities to support skilled volunteering engagement at board-level.

The framework’s format and content are still in development. To shape it effectively, we’re starting with a research phase to explore how we can better support individuals across Wales into governor roles through various networks. If you’d like to get involved, please read on.

Pam y mae angen fframwaith?

Mae llywodraethwyr yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol ysgol, goruchwylio’r gyllideb, a dwyn arweinyddiaeth i gyfrif. Gall eu cefnogaeth a’u parodrwydd i herio penderfyniadau arweinyddiaeth:

  • helpu i wella lles a chyrhaeddiad disgyblion.
  • hybu ymgysylltiad rhieni.
  • cefnogi lles staff.
  • lliniaru’r risgiau a’r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu.

Fodd bynnag, gyda bron i 2,000 o swyddi gwag ar fyrddau ysgol yng Nghymru, nid oes gan lawer o ysgolion fynediad at wirfoddolwyr medrus ac ymroddedig. Mae angen mwy o fuddsoddiad i sicrhau cam grŵp ehangach, a mwy amrywiol, i lywodraethu ysgolion.

Why is the framework needed?

Governors are responsible for setting the strategic direction of a school, overseeing the budget, and holding leadership to account. Their support and willingness to challenge leadership decisions can:

  • help enhance pupil welfare and attainment.
  • boost parental engagement.
  • support staff wellbeing.
  • mitigate the risks and challenges schools face.

However, with nearly 2,000 school board vacancies in Wales, many schools don’t have access to skilled and dedicated volunteers. Greater investment is needed to ensure a wider, and more diverse, group step into school governance.

Y cynnig

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, rydym yn datblygu fframwaith strategol i wneud llywodraethu’n fwy hygyrch ac apelgar. Nid yw llawer o unigolion â’r sgiliau, y profiad bywyd, a’r wybodaeth gymunedol angenrheidiol yn ymwybodol o’r cyfle.

Ein nod yw cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad drwy weithio gyda busnesau, prifysgolion, awdurdodau lleol, a grwpiau cymunedol. Gyda’n gilydd, rydym am godi ymwybyddiaeth o’r rôl a chreu llwybrau clir, ymarferol i lywodraethu. Bydd y fframwaith yn cael ei arwain gan ymchwil, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion ysgolion a darpar wirfoddolwyr. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau a hyfforddiant manwl i arwain unigolion i’r rôl yn hyderus.

 

 

The proposal

To address these challenges, we’re developing a strategic framework to make governance more accessible and appealing. Many individuals who could bring their skills, lived experience, and community knowledge are simply unaware of the opportunity.

Our aim is to remove barriers to participation by working with businesses, universities, local authorities, and community groups. Together, we want to raise awareness of the role and create clear, practical pathways into governance. The framework will be research-led, ensuring it reflects the needs of both schools and potential volunteers. We’ll also provide in-depth resources and training to guide individuals into the role with confidence. 

Hoffech chi gydweithio â ni?

Er mwyn sicrhau y gall y prosiect hwn ddiwallu anghenion ysgolion a chymunedau Cymru, mae cydweithio yn allweddol. Rydym yn galw am gefnogaeth cyflogwyr, sefydliadau lleol, a rhwydweithiau ledled y wlad i gasglu mewnwelediadau a deall y ffordd orau o annog cyfranogiad mewn llywodraethu ysgolion. Trwy grwpiau ffocws, arolygon, a sgyrsiau uniongyrchol, byddwn yn archwilio pa strwythurau cymorth a strategaethau cyfathrebu sydd fwyaf effeithiol. Mae eich mewnwelediadau yn allweddol i greu fframwaith gwirfoddoli sy’n gyffrous, yn ddeniadol ac yn effeithiol.

Bydd hygyrchedd hefyd yn flaenoriaeth drwyddi draw. Mae hyn yn golygu adnoddau dwyieithog ac ymdrechion i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i gyfranogiad ar gyfer grwpiau sy ar yr ymylon yn draddodiadol. Mae sicrhau bod gwirfoddolwyr o bob cefndir yn camu ymlaen yn allweddol i’n llwyddiant cydweithredol.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, [email protected]

Cwblhewch arolwg

Want to collaborate with us?

To ensure this project can meet the needs of Welsh schools and communities, collaboration is key. We’re calling for the support of employers, local organisations, and networks nationwide to gather insights and understand how best to encourage participation in school governance. Through focus groups, surveys, and direct conversations, we’ll explore what support structures and communication strategies are most effective. Your insights are key to creating a volunteering framework that is exciting, engaging, and effective.

Accessibility will also be a priority throughout. This means bilingual resources and efforts to ensure there are no barriers to participation for traditionally marginalised groups. Ensuring volunteers from all backgrounds step forward is key to our collaborative success.

If you’d like to get involved, please contact [email protected].

Complete a survey