Mae Llywodraethwyr i Ysgolion yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gefnogi gweithwyr a chynfyfyrwyr i ddod yn llywodraethwyr ysgol.

Byddwn yn cyfateb eich sgiliau a’ch profiadau i fwrdd ysgol sydd angen rhywun fel chi.

Dechreuwch eich cais 

 

 

Ynglyn â’r swydd

Mae ganddyn llywodraethwyr ysgolion nhw 3 swyddogaeth graidd:

  • Cynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol
  • Goruchwylio perfformiad ariannol yr ysgol a sicrhau bod arian yn cael ei wario’n dda
  • Dal y pennaeth neu’r arweinyddiaeth ysgol i gyfrif

Darllenwch fwy am rôl y llywodraethwr

lawrlwythwch a chwblhewch fersiwn Cymraeg

 

 

Mae Llywodraethwyr i Ysgolion yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd.

Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i wirfoddoli eu sgiliau ar fyrddau llywodraethu, gan wella addysg ar draws Cymru a Lloegr.

Governors for Schools a Governors Cymru

Rydym yn gweithio gyda Governors Cymru i gefnogi lywodraethwyr yng Nghymru.

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn wasanaeth cefnogi annibynnol, unigryw yng Nghymru sydd yn darparu amrediad o wasanaethau ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.  Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant ysgolion effeithiol fel bod pob llywodraethwr gwirfoddol yn cael cefnogaeth dda i gyflawni eu cyfrifoldebau niferus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Governors Cymru

 

Cefnogaeth i lywodraethwyr

Mae ein hyfforddiant a’n hadnoddau yno i chi ymgyfarwyddo â’r rôl, fel eich bod yn hyderus ynddi o’r cychwyn cyntaf.

Bydd eich sgiliau a’ch profiad o fudd i ysgol – does dim rhaid i chi fod yn gyfarwydd â’r holl acronymau erbyn eich cyfarfod cyntaf.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwirfoddolwyr yn llywodraethwyr am y tro cyntaf, ac mae angen y persbectif allanol hwn ar ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau cadarn.

 

 

 

 

 

Gweminarau

Cofrestru ar gyfer gweminarau sydd ar y gweill a gwylio sesiynau yn ôl

Gweld gweminarau

 

eDdysgu

Cwblhewch ein modiwlau eDdysgu i gael trosolwg o beth i’w ddisgwyl fel llywodraethwr, ynghyd ag elfennau allweddol o’r rôl, gan gynnwys data cyllid a pherfformiad.

Decharu eDdysgu