Read in English

 

Rydym yn cefnogi pob math o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, colegau addysg uwch, unedau atgyfeirio disgyblion (PRUs) a meithrinfeydd i ddod o hyd i lywodraethwyr yn rhad ac am ddim.

Cofrestrwch eich swydd llywodraethwr wag gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, neu lawrlwythwch a chwblhewch ein fersiwn Cymraeg.

 

 

Amlinelliad o'r broses

  1. Cofrestrwch swyddi gwag eich llywodraethwr ar-lein. Yma gallwch chi nodi’r sgiliau neu’r arbenigedd dymunol rydych chi’n chwilio amdanyn nhw mewn gwirfoddolwyr.
  2. Bydd eich Rheolwr Partneriaethau ymroddedig yn dod o hyd i wirfoddolwyr o ardal leol eich ysgol sy’n gweddu orau i’ch gofynion.
  3. Os oes gennych chi a’r gwirfoddolwr ddiddordeb mewn symud ymlaen, byddwn yn gwneud cyflwyniad trwy e-bost.
  4. Yna gallwch chi drefnu cyfarfod gyda’r gwirfoddolwr / gwirfoddolwyr yn yr ysgol i drafod y rôl.

 

Cofrestrwch eich swydd llywodraethwr wag gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, neu lawrlwythwch a chwblhewch ein fersiwn Cymraeg.

 

Telerau ein gwasanaeth

Ein nod yw sicrhau y bydd pob ysgol yng Nghymru a Lloegr yn cael ei llywodraethu’n rhagorol, sy’n sbarduno gwell ganlyniadau i bob plentyn a pherson ifanc. Rydyn ni eisiau helpu cymaint o ysgolion a gwirfoddolwyr â phosib – ond dim ond â chefnogaeth yr ysgolion sy’n cydweithio â ni y gallwn ni wneud hyn.

Er mwyn ein helpu i ddarparu’r lefel uchel hwn o wasanaeth, wrth gofrestru’ch swydd wag, gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i ymateb i’r gwirfoddolwyr a gyflwynir i chi o fewn bythefnos (sef y cyfnod cytunedig).

Os nad oes gennych ddiddordeb mewn parhau gyda gwirfoddolwr, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Yna gallwn ddod o hyd i gyfle arall i’r gwirfoddolwr a all fod o fudd i ysgol arall.

Os bydd eich gofynion yn newid neu os nad yw’ch swydd wag ar gael bellach, cysylltwch â ni. Yna gallwn ddiweddaru neu oedi ein hymchwiliadau am wirfoddolwyr addas.