Croeso i llywodraethu yng Nghymru
Diolch am ddechrau ar eich taith llywodraethu
Rydyn ni wedi dod â rhywfaint o ddarllen, adnoddau a dolenni at ei gilydd i’ch helpu chi i baratoi cyn eich paru chi ag ysgol. Defnyddiwch y dudalen hon fel man cychwyn ar gyfer darllen pellach am eich rôl.
Rôl llywodraethwr ysgol
Rôl y bwrdd yw darparu arweinyddiaeth strategol i’r ysgol neu’r ysgolion y mae’n gyfrifol amdanyn nhw.
Yn yr un modd â llywodraethu yn y sector busnes ac elusennol, mae’r bwrdd yn helpu i sicrhau’r canlynol:
- Atebolrwydd– cyfiawnhad dros y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud
- Goruchwylio – craffu ar ac ymchwilio i benderfyniadau a pherfformiad allweddol
- Sicrwydd– ennyn hyder bod yr ysgol yn gweithredu’n effeithiol ac yn cydymffurfio o ddydd i ddydd a’i bod ar sail sefydlog
At ei gilydd, mae hyn yn helpu i roi sicrwydd bod yr ysgol yn perfformio’n dda, yn gallu gwella ac yn cydymffurfio â dyletswyddau a gofynion perthnasol.
Tair dyletswydd graidd byrddau llywodraethu ysgolion yn ôl Llywodraeth Cymru
Yn ôl cyngor Llywodraeth Cymru pwrpas llywodraethu yw helpu i ddarparu’r addysg orau bosibl i ddysgwyr.
- Darparu golwg strategol – cynnig fframwaith ar gyfer rhedeg yr ysgol i’r pennaeth a’r staff; gosod y nodau a’r amcanion; cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn; monitro a gwerthuso.
- Gweithredu fel ffrind beirniadol – darparu cefnogaeth a her i’r pennaeth a’r staff, ceisio gwybodaeth ac eglurhad.
- 3. Sicrhau atebolrwydd – egluro penderfyniadau a gweithredoedd y corff llywodraethu i unrhyw un sydd â buddiant dilys.
Darllenwch fwy am ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraethwyr ysgol.
Llywodraethu mewn ysgolion a gynhelir
Mae pob ysgol yng Nghymru yn derbyn ei chyllid gan yr awdurdod lleol. Mae’r mwyafrif o ysgolion yn ysgolion cymunedol, er bod rhai ysgolion sylfaen a gwirfoddol.
Dolen i rolau a phwyllgorau
Os cewch rôl llywodraethwr cyswllt gofynnir ichi ymuno â phwyllgor wrth ddechrau’ch gwaith fel llywodraethwr
Mae llywodraethwyr cyswllt yn cymryd goruchwyliaeth dros faes penodol bywyd ysgol fel diogelu, premiwm disgyblion neu anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y prif fwrdd yn rhoi cyfrifoldebau mewn maes penodol i bwyllgorau.
Dysgwch fwy am lywodraethwyr cyswllt a phwyllgorauFelly yw union rôl llywodraethwyr?
Fel arfer, rôl ‘sedd gefn’ sy gan lywodraethwyr
Fel arfer, cyfrifoldeb y pennaeth a staff eraill yw’r penderfyniadau rheoli o ddydd i ddydd, gyda llywodraethwyr yn canolbwyntio ar benderfyniadau strategol ac yn darparu goruchwyliaeth.
Bydd llawer o’ch amser fel llywodraethwr yn ymwneud â pharatoi ar gyfer a mynychu cyfarfodydd. Fel arfer bydd un neu ddau gyfarfod i chi eu mynychu bob tymor.
Dangosodd ein hymchwil fod gwirfoddolwyr yn treulio 7 awr y mis ar gyfartaledd ar ddyletswyddau llywodraethu.
Cyfarfodydd bwrdd llywodraethu ysgol
Darllenwch fwy am beth sy’n digwydd mewn cyfarfodydd bwrdd a’r hyn a ddisgwylir gennych.
Darllenwch fwySgiliau ac arbenigedd llywodraethu
Mae Llywodraeth Cymru’n cynghori y dylai llywodraethwyr ymwneud â’r meysydd canlynol
Disgrifwyr Cyfrifoldebau Craidd ar gyfer llywodraethu
Safonau – sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo safonau cyrhaeddiad addysgol, presenoldeb ac ymddygiad uchel, gan gynnwys adolygiad trylwyr o ddata perfformiad
Targedau – gosod targedau ar gyfer mesur cynnydd cyflawniad a chanlyniadau disgyblion
Cwricwlwm – sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm eang a chytbwys, a bod gofynion statudol yn cael eu bodloni
Pennu nodau, polisïau a blaenoriaethau’r ysgol – mewn trafodaethau ar y cynllun Datblygu / Gwella Ysgol, Hunanwerthuso Ysgol; adnewyddu a chymeradwyo polisïau a dogfennau statudol
Cyllid – pennu a monitro cyllideb ysgol
Staffio – penderfynu ar nifer y staff, y polisi tâl a gwneud penderfyniadau ar gyflog staff, penodiadau staff, ataliad, materion disgyblu a diswyddo, cwynion, rheoli perfformiad a materion sy’n effeithio ar gydbwysedd gwaith / bywyd y pennaeth a’r staff, gan roi sylw dyledus i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD)
Rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol – e.e., trwy adroddiad blynyddol i rieni a chyfarfodydd statudol gyda rhieni
Paratoi arolygiad a gwaith dilynol – gan gynnwys cynhyrchu cynllun gweithredu a monitro cynnydd yn dilyn arolygiad gan Estyn
Llesiant a diogelu dysgwyr – gan gynnwys hyrwyddo bwyta’n iach
Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau llywodraethwyr mewn materion cydraddoldeb a ble i ofyn am gyngor
Gwerthuso perfformiad y corff llywodraethu yn ôl yr angen.
Darllenwch fwy am sgiliau perthnasol a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn eich rôl
Darllenwch fwySut i fod yn llywodraethwr effeithiol
Fel llywodraethwr yng Nghymru, byddwch yn cwblhau hyfforddiant sefydlu gorfodol i’ch helpu i ddeall eich rôl a’ch cyfrifoldebau yn llawn.
Mae meysydd allweddol o dan sylw’n cynnwys:
- Darparu cefnogaeth strategol, a deall cyfrifoldeb y pennaeth dros reoli’r ysgol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Diplomyddiaeth a’r gallu i gydweithio
- Paratoi ar gyfer cyfarfodydd a dangos ymrwymiad i’r rôl trwy fynychu hyfforddiant
Ymddygiad Llywodraethwyr
Yn ôl Canllaw Llywodraethwyr Cymru ar y Gyfraith:
Dylai cyrff llywodraethu a llywodraethwyr unigol weithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb bob amser a bod yn barod i egluro’u gweithredoedd a’u penderfyniadau i staff, disgyblion, rhieni ac unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithlon yn yr ysgol. Rhaid i lywodraethwyr fod yn ymwybodol y dylai cofnodion a phapurau cyfarfodydd cyrff llywodraethu fod ar gael i unrhyw un yn yr ysgol eu gweld cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod.
Gwrthdaro buddiannau
Ystyr gwrthdaro buddiannau yw unrhyw sefyllfa lle gallai buddiannau neu deyrngarwch personol llywodraethwr (neu berson sy’n gysylltiedig â buddiant y llywodraethwr) atal y llywodraethwr rhag gwneud penderfyniad er budd gorau’r ysgol neu’r ymddiriedolaeth yn unig.
Beth yw gwrthdaro buddiannau a rheoli gwrthdaro buddiannau?
Darllenwch fwyCanllawiau a darllen pellach
Ceir llawer o wybodaeth i’ch helpu chi yn eich rôl fel llywodraethwr. Defnyddiwch y dolenni hyn i wella’ch gwybodaeth am y rôl a’r gwahanol feysydd lle gallwch chi gynnig cefnogaeth.
Darllenwch fwy
Mae Governors for Schools a Gwasanaethau Governors Cymru yn lansio modiwl e-ddysgu newydd ar gyfer llywodraethwyr newydd a darpar lywodraethwyr yng Nghymr
Mae Governors for Schools a Gwasanaethau Governors Cymru (GCS) yn falch o lansio modiwl e-ddysgu dwyieithog i gefnogi llywodraethwyr newydd a darpar lywodraethwyr yng Nghymru. Cafodd yr adnodd ymsefydlu newydd ei ariannu’n hael gan Brifysgol Caerdydd a’i ddatblygu ar y cyd â Governors Cymru Services.
Rhagor o wybodaeth